Myfyrwyr yn cerdded o flaen Prif Adeilad Prifysgol Caerdydd

Cwestiynau Cyson am yr Her

Meddwl am ymuno â'r her neu a oes gennych ychydig o gwestiynau?‍

Darllenwch ymlaen i wybod mwy...

Beth yw Newid Camau Caerdydd?

Rhaglen wobrau am ddim yw Newid Camau i staff a myfyrwyr ymuno ynddi ym Mhrifysgol Caerdydd, sydd wedi'i dylunio i'ch helpu chi i deithio'n fwy cynaliadwy. Mae'n gwobrwyo teithio cynaliadwy ar gyfer cymudo a theithiau hamdden i'r campws ac oddi yno, ac yn annog gweithgaredd cerdded, rhedeg, mynd ar olwynion a seiclo rheolaidd ar gyfer iechyd a lles. Bydd y rhaglen yn rhedeg tan 16 Mehefin 2023, gyda phwyntiau yn cael eu hennill a gwobrau'n cael eu cyflwyno'n bennaf yn ystod dyddiadau semester.

Sut mae Newid Camau Caerdydd wedi cael ei ariannu?

Mae Newid Camau wedi cael ei ariannu gan Brifysgol Caerdydd.

Pam ddylwn i gymryd rhan?

Ap ennill gwobrau yw BetterPoints sy'n annog pobl i gerdded, rhedeg, seiclo, neu fynd ar y bws neu'r trên fwy, ar gyfer dibenion cymudo neu hamdden. Bydd cymryd rhan yn caniatáu i chi ennill gwobrau am deithio mewn ffyrdd sydd fwy cynaliadwy a chyfeillgar i'r amgylchedd. Gallwch wario eich pwyntiau BetterPoints ar y campws, gydag adwerthwyr y stryd fawr neu eu cyfrannu tuag at elusen, gan gynnwys cefnogi gwaith bioamrywiaeth y Brifysgol. Bydd y data diogel sydd wedi'i anomeiddio y mae eich cyfranogiad yn ei ddarparu hefyd yn gwella darpariaeth ar gyfer cludiant llesol a chynaliadwy, gan helpu gwneud y Brifysgol yn gampws gwell, mwy diogel a mwy iach i bawb deithio o'i amgylch.

Sut allaf gymryd rhan?

Edrychwch ar y dudalen Gofrestru ar gyfer Newid Camau, neu yn ei grynswth:

1. Lawrlwythwch yr ap BetterPoints am ddim oddi ar yr App Store neu Google Play.

2. Cofrestrwch ar yr ap. Rhaid i chi ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost @cardiff.ac.uk i fod yn gymwys.

3. Ymunwch â her Newid Camau Caerdydd.

4. I gofnodi taith â llaw, tapiwch ar y botwm Chwarae ▶️ ar ddechrau eich taith. Peidiwch ag anghofio gwasgu stop pan fyddwch wedi gorffen. Neu, traciwch eich gweithgareddau yn awtomatig, trwy droi'r swyddogaeth tracio awtomatig ymlaen - bydd yr ap wedyn yn derbyn negeseuon pan fyddwch yn symud. Fe fydd gofyn i chi gadarnhau'r rhain yn ddiweddarach yn y dydd.

5. Gwiriwch eich balans pwyntiau a helpu eich hoff achos trwy'r tab Cyfraniadau neu roi trît i'ch hunan trwy'r catalog Gwobrau.

Sut allaf ennill pwyntiau neu ennill gwobr?

Gallwch ennill pwyntiau ac ennill llawer o wobrau gwych am deithio'n llesol ac yn gynaliadwy. Edrychwch ar yr holl wobrau yma.

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng BetterTickets a BetterPoints?

Arian cyfredol wedi'i gefnogi'n ariannol yw BetterPoints y gallwch eu hennill trwy dracio gweithgareddau cymwys - maen nhw'n cronni dros amser. Gellir gweld eich balans pwyntiau o'r ddewislen ☰ yn y gornel chwith uchaf ar yr ap. Unwaith y byddwch wedi casglu digon o bwyntiau, gallwch eu cyfnewid ar gyfer tocynnau yng nghatalog yr ap neu eu cyfrannu tuag at elusen (mae 1,000 o BetterPoints yn werth £1).

Ymgeision i dynfa i ennill gwobrau yw BetterTickets a enillir am wneud gweithgaredd penodol. Mae'r tocynnau y byddwch yn eu hennill yn eich cyflwyno'n awtomatig i'n tynfeydd i ennill gwobrau. Y mwyaf o docynnau y byddwch yn eu hennill, y cyfle gorau sydd gennych o ennill. Gall gwobrau cynnwys potiau o BetterPoints a phethau penodol megis helmedi beic.

Beth allaf wario fy mhwyntiau arnynt?

Gallwch eu gwario ar y campws neu gydag adwerthwyr lleol neu genedlaethol a restrir ar yr ap. Fel arall, gallwch gyfrannu eich pwyntiau i elusen, gan gynnwys gwaith bioamrywiaeth y Brifysgol. Bydd 100% o'r holl arian a gyfrennir yn cael ei ddyrannu i brosiectau gan y Pwyllgor Llywio Cynllun Gweithredu Cydnerthedd Ecosystemau a Bioamrywiaeth  (ERBAP), i helpu gwneud cynnydd gyda'u cynllun i feithrin cydnerthedd ecosystemau a bioamrywiaeth ar draws y campws.

A allaf gymryd rhan os wyf yn defnyddio cadair olwyn, ac os felly, sut ydw i'n cofnodi fy nheithiau?

Gallwch! Gellir tracio pob math o gadair olwyn fel 'ar olwynion" yn ei hap! Gallwch lawrlwytho'r ap yn unol â'r cyfarwyddiadau uchod. Os byddwch yn dewis tracio awtomatig, bydd yr ap yn tracio eich taith. Oherwydd synwyryddion symudiadau sydd wedi'u cynnwys yn eich dyfais, fe allant dybio eich bod yn seiclo, yn hytrach na mynd ar olwynion. Yn eich llinell amser, wedi cwblhau eich taith, fe fyddwch yn gallu diwygio hyn i fynd ar olwynion a bydd eich taith yn cael ei diweddaru. Fe fyddwch yn cael eich gwobrwyo gyda'r un faint o bwyntiau/tocynnau â theithiau cerdded, rhedeg neu seiclo.

Rwyf eisiau teithio'n gynaliadwy ond ddim yn teimlo'n ddiogel. A all y Brifysgol helpu?

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig diogelwch i fyfyrwyr trwy ein Hap Safezone y gellir ei lawrlwytho oddi ar safezoneapp.com. Mae'r ap yn caniatáu i fyfyrwyr gyfathrebu gyda swyddogion diogelwch ym Mhrifysgol Caerdydd lle y gall myfyrwyr anfon rhybudd yn seiliedig ar leoliad os oes byth angen ymateb brys. Os nad ydych mewn sefyllfa  lle yr ydych yn gallu galw, mae'r ap hefyd yn caniatáu i fyfyrwyr gyfathrebu gyda swyddogion diogelwch trwy neges destun.

A yw fy nata yn cael ei rannu?

Mae rhannu unrhyw wybodaeth yn ddewisol; gweithredir prosesu data gan BetterPoints ac nid yw'n cael ei reoli gan Brifysgol Caerdydd. Mae BetterPoints ond yn rhannu data sydd wedi'i gronni a'i anomeiddio gyda'r Brifysgol ac nid ydym byth yn rhannu eich data gydag unrhyw un arall, ac eithrio enillwyr tynfa i ennill gwobr. Efallai y bydd gwybodaeth gyswllt gan gynnwys enw a chyfeiriad e-bost yn cael ei rhannu gyda Phrifysgol Caerdydd a phartneriaid Newid Camau Caerdydd er mwyn cyflawni gwobrau.

A yw'r ap a'r wefan yn hygyrch?

Rhaglen ap a gwefan yw Newid Camau Caerdydd sydd wedi'i datblygu gan  BetterPoints. Gan mai cymhwysiad yw Newid Camau Caerdydd sy'n dal cynnwys trydydd parti, mae hyn yn golygu y bydd rhai agweddau ar hygyrchedd y cymhwysiad y tu allan i reolaeth Prifysgol Caerdydd. Mae Newid Camau Caerdydd yn cydymffurfio'n rhannol gyda'r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe, ond mae angen gwelliannau. Mae Prifysgol Caerdydd yn ymroddedig tuag at wneud rhaglen Newid Camau Caerdydd mor hygyrch ag sy'n bosibl ac yn gweithio'n weithgar i fynd i'r afael â'r materion hyn. Mae'r Brifysgol yn gweithio gyda  BetterPoints i wella hygyrchedd yn y fersiwn newydd o'u hap, sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.

A oes gennych unrhyw gwestiynau pellach?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach neu eich bod yn dod ar draws unrhyw faterion gyda'r ap, tapiwch y botwm dewislen ☰ yn y pen chwith uchaf ar yr ap ac yna 'Help'. Gellir ateb y mwyafrif o gwestiynau yma, ond os nad dyma yw'r achos, gallwch gysylltu â BetterPoints trwy dapio'r swigen sgwrsio 💬 yn y pen de uchaf ar yr ap neu drwy anfon e-bost at: customercare@betterpoints.uk.

Gwnewch eich rhan i fynd i'r afael ag argyfwng hinsawdd

Mobile phone with betterpoints app.