Menyw ar feic

Ymuno â Changing Steps Caerdydd

Mae cyrraedd y Brifysgol mewn ffordd sy'n dda i'r amgylchedd a'ch cymdogaeth yn haeddu mwy na chanmoliaeth yn unig. Gyda'r ap BetterPoints gall eich teithiau cynaliadwy ennill gwobrau i chi bob tro y byddwch yn cerdded, mynd ar olwynion, rhedeg, seiclo, neu'n defnyddio cludiant cyhoeddus.

Mae ennill pwyntiau BetterPoints yn hawdd! Lawrlwythwch yr ap BetterPoints oddi ar yr App Store neu Google Play. Fe fydd yn tracio sut fyddwch chi'n teithio a faint o bwyntiau rydych chi wedi eu hennill. Gallwch wario eich pwyntiau ar y campws, gydag adwerthwyr y stryd fawr, neu eu cyfrannu tuag at elusen.

Bwriedir cynnal Newid Camau Caerdydd tan 16 Mehefin 2023.  Mae'n golygu annog staff a myfyrwyr i greu dinas lanach a gwyrddach trwy deithio i'r Brifysgol mewn ffyrdd sydd o fudd i'r amgylchedd, iechyd a'ch cymuned.

Ddilyn y cyfarwyddiadau hyn i ddechrau'r broses:

1. Lawrlwythwch yr ap BetterPoints o'r App Store neu Google Play.

2. Tapiwch ar 'Ymuno Nawr' a chofrestru eich cyfeiriad e-bost @cardiff.ac.uk. Rhaid i chi ddefnyddio'r e-bost hwn i fod yn gymwys i ymuno.

3. Fe fydd neges groeso yn llinell amser eich ap yn eich gwahodd i ymuno â 'Newid Camau Caerdydd'. Fel arall, tapiwch ar y tab 'Heriau' ar y bar llywio gwaelod a'i ddewis yno.

4. Llenwch eich arolwg gwaelodlin o'r neges yn eich llinell amser i ddatgloi eich gwobrau gweithgaredd.

5. Tapiwch y botwm Chwarae ▶️ ym mhen cornel dde uchaf yr ap i dracio eich gweithgareddau trwy Dracio Awtomatig (sydd wastad ymlaen) neu Dracio â Llaw (pan fyddwch eisiau tracio gweithgaredd penodol).

6. Dechreuwch ennill pwyntiau BetterPoints a thocynnau BetterTickets!

Sut allwn ni eich helpu i barhau wedi eich cymell?

Gyda phwyntiau BetterPoints gallwch weld eich pwyntiau yn cronni yn yr ap. Gwiriwch y gwobrau rydych wedi eu hennill yma. Rydym hefyd yn rhannu newyddion am yr hyn sy'n digwydd yn y Brifysgol i'ch helpu chi i gadw'n actif. Mae gennym dynfeydd rheolaidd i ennill gwobrau, gan gynnwys ymgyrchoedd, cystadlaethau a rhoddion sydd gennym i'w rhoi ymaith trwy gydol y rhaglen. 

Faint o wybodaeth ydw i angen ei rhannu i gofrestru?

Pan fyddwch yn cofrestru i ddefnyddio'r ap BetterPoints gyntaf, fe fydd yn gofyn i chi ddarparu manylion personol er mwyn i chi ddechrau. Mae hyn yn cynnwys eich enw, cyfeiriad e-bost Prifysgol, blwyddyn eich geni, lleoliad, a chod post. Rydym hefyd yn gofyn i chi greu cyfrinair diogel er mwyn cael mynediad at ap BetterPoints a diogelu eich cyfrif.  Fe fydd gofyn i chi droi tracio awtomatig ymlaen: mae'r holl ddata GPS yn cael ei anomeiddio a'i gasglu, a dim ond ar gyfer adrodd y caiff ei ddefnyddio fel y gall Prifysgol Caerdydd wella cynllunio teithio i bawb. Trwy rannu teithiau sydd wedi'u tracio trwy GPS, rydych yn helpu i wneud y Brifysgol yn wyrddach, yn lanach, mwy diogel ac yn hawdd i fyw ynddi i bawb. I ganfod mwy am yr hyn a wnawn gyda'ch gwybodaeth, edrychwch ar ein Polisi Preifatrwydd.

Gwnewch eich rhan i fynd i'r afael ag argyfwng hinsawdd

Mobile phone with betterpoints app.