Mae llawer o wobrau ar gynnig am dracio eich teithio llesol a chynaliadwy gyda'r ap BetterPoints.
Cofrestrwch a Dechrau ar y Broses
Enillwch 250 o bwyntiau am lawrlwytho'r ap yn unig a llenwi ein harolwg gwaelodlin byr. Bydd hyn yn datgloi eich gwobrau. Cofiwch gofrestru gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost @cardiff.ac.uk.
Teithio Llesol a Theithio Cynaliadwy
Enillwch 10 o bwyntiau BetterPoints trwy gerdded, mynd ar olwynion, seiclo, rhedeg, neu gymryd y bws neu'r trên, i safle Prifysgol Caerdydd ac oddi yno. Gallwch ennill y wobr hon hyd at ddwywaith y diwrnod am daith o 1/2 milltir neu fwy.
Tynfa Ddyddiol i Ennill Gwobr - Enillwch 500 o bwyntiau BetterPoints
Enillwch 1 tocyn BetterTicket i gael eich cynnwys yn y dynfa i ennill gwobr ar gyfer eich taith lesol neu gynaliadwy o safle Prifysgol Caerdydd ac oddi yno. Gallwch ennill y wobr hon hyd at bedair gwaith y diwrnod am deithiau o 1/2 milltir neu fwy. Pob diwrnod, rydym yn rhoi 500 o bwyntiau BetterPoints ymaith. Yn gweithio neu'n astudio o gartref? Enillwch 1 tocyn BetterTicket ychwanegol hyd at bedair gwaith y diwrnod, trwy dorri'r diwrnod i fyny gyda thaith gerdded, ar olwynion, rhedeg neu seiclo.
Seren Teithio Cynaliadwy Caerdydd - Enillwch 2,500 o bwyntiau BetterPoints
Rhannwch eich stori teithio llesol a chynaliadwy trwy lenwi ein harolwg byr. Os cewch eich dewis, fe fyddwch yn cael eich gwobrwyo gyda 2,500 o bwyntiau BetterPoints a'ch stori wedi ei rhannu yn yr ap a gan y Brifysgol.
Gwobrau Hybu
Dyma'r gwobrau craidd yn unig - fe fyddwn yn cyflwyno ychydig o wobrau ychwanegol trwy gydol y rhaglen, gan gynnig ychydig o ffyrdd difyr a hwyliog o ennill pwyntiau a gwobrau BetterPoints ychwanegol!
Beth allaf i ei wneud gyda'm gwobrau?
Gwario
Gellir troi'r pwyntiau BetterPoints y byddwch yn ei hennill yn £££s i'w wario ar y campws neu eu derbyn a'u defnyddio ar gyfer tocynnau rhodd y stryd fawr. Edrychwch ar y tab 'derbyn a defnyddio' yn yr ap i weld beth sydd ar gael ar hyn o bryd.
Cyfrannu
Fel arall, gallwch gyfrannu eich pwyntiau tuag at achosion elusennol, gan gynnwys cefnogaeth tuag at waith bioamrywiaeth y Brifysgol.